EGLWYS GYMRAEG CANOL LLUNDAIN
Oedfaon y Sul am 11:00 a 6:00
Eglwys Gymraeg wedi'i lleoli yng nghanol Llundain ger Oxford Circus, yn cynnig cymdeithas Gristnogol trwy gyfrwng addoliad dwyieithog.
Fel Eglwys Gymraeg yng nghanol Llundain, 'rydym yn cynnig cymdeithas Gristnogol trwy:
-
Addoli yn ddwyieithog
-
Cyhoeddi'r Efengyl
-
Adlewyrchu cariad Crist yn ein bywydau bob dydd
-
Ymrwymiad i gefnogi'r gymuned ehangach.

Daeth Eglwys Gymraeg Canol Llundain i fodolaeth yn 2006 pan unodd Eglwys y Bedyddwyr Castle Street, ac Eglwysi Annibynnol Y Tabernacl, King's Cross a Radnor Walk, Chelsea â'i gilydd i ffurfio Eglwys Gymraeg Canol Llundain.