top of page



Mae Oedfa'r Bore am 11:00 ac Oedfa'r Hwyr am 6:00. Cynhelir oedfaon cymundeb ar fore Sul cyntaf y mis, ac ar y trydydd Sul yn yr hwyr.
Mae Cylch Trafod (Ysgol Sul i oedolion) bob Sul am 4:30, a chynhelir 'Cymdeithas Prynhawn Sadwrn' am 2:00 ar Sadyrnau cyntaf y mis rhwng Chwefror a Gorffennaf.
Cynhelir Ysgol Sul i blant yn ystod Oedfa'r Bore, a phob dydd Mercher am 12:00 cynhelir oedfa fer, anffurfiol gyda phaned a sgwrs yn dilyn "Canol Dydd, Canol Wythnos, Canol Llundain"

Bu'r blynyddoedd er pan ffurfiwyd Eglwys Gymraeg Canol Llundain yn rhai ffrwythlon a bendithiol. Ceir yma eglwys 'fyw', gydag ymdeimlad ac agwedd gadarnhaol ym mhob elfen o fywyd yr Eglwys. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar y gwaith sydd wedi dechrau eisoes, ac i ddatblygu a thyfu'n ysbrydol gyda'n gilydd fel Eglwys.  Mae'n braf cael eich cyfarch trwy gyfrwng ein gwefan. Gobeithio yr ymwelwch â hi o bryd i'w gilydd, ac yr ymwelwch â ni fel Eglwys hefyd.

"Iesu Grist, yr un ddoe heddiw ac am byth"

Hebreaid 13:8

  • facebook
  • googlePlaces
  • twitter
  • instagram
bottom of page